Monday 6 February 2012

Tynnu nol o'r ras am Arweinyddiaeth Plaid Cymru a chefnogi Elin Jones ar y cyd

Derbyniais enwebiadau a chefnogaeth fel ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth oherwydd tri phrif amcan.

Yn gyntaf oll, ei bod hi’n bryd i arweinyddiaeth y blaid symud ymlaen i’r genhedlaeth ol-ddatganoli.

Yn ail, bod yn rhaid arwain y blaid o’i chanol, sydd ynddo’i hunan i’r chwith ar y sbectrwm gwleidyddol Ewropeaidd.

Ac yn drydydd, fy mod i’n medru bod yn arweinydd i gyflawni’r amcanion hynny gan gynyddu apêl y blaid ymhob rhan o Gymru.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, wrth ymwneud a thrafod gydag aelodau, rwyf wedi fy argyhoeddi bod mwyafrif llethol y blaid yn cytuno a mi ar y ddau amcan cyntaf.

Mae cyflawni’r trydydd mewn maes llawn ymgeiswyr wedi bod yn fwy o her. Fel yr Aelod Cynulliad mwyaf diweddar yn y maes, bu llawer o dir i mi ei ennill. Mae hi wedi bod yn galonogol serch hynny i weld y gefnogaeth i mi yn tyfu. Ond, y peth mwyaf nodweddiadol am yr etholiad presennol yn y Blaid yw’r ffaith fod cynifer o ganghennau, etholaethau ac aelodau heb benderfynu ac yn amlwg yn deisyf cyfarwyddyd cryf. Mae’n amlwg i mi fod mwyafrif o’n haelodau yn dymuno cael arweinydd a fydd yn canolbwyntio ar adeiladu economi ein cenedl; ar gynnal ei hamgylchfyd ac ar gynyddu’r gefnogaeth dros annibyniaeth mewn ffordd gredadwy.

Un peth sydd yn siŵr - ni fydd Plaid Cymru yn cyrraedd llywodraeth na llwyddiant etholiadol drwy chwarae gemau gwleidyddol gyda breuddwydion a gobeithiol pobl.

Mae Elin a minnau yn cynnig gweledigaeth o’r fath. Rwy’n credu yn awr y dylsen ni gyfuno ein profiad, talentau a’n hapêl wahanol i gyd-weithio a cheisio uno’r blaid. Gyda’n gilydd, gallwn ni gynnig y cyfarwyddyd a’r arweiniad y mae’r blaid ei angen.

Cafodd Elin gryn dipyn o gefnogaeth. Rwy’n ei llongyfarch ar hynny, ac heddiw felly datganaf y byddaf yn tynnu fy enw yn ôl, er mwyn ei chefnogi hi fel arweinydd fel ei dirprwy. Rwy’n gofyn yn awr i’r blaid ymddiried yn y genhedlaeth nesaf o wleidyddion Plaid Cymru i fynd a ni ymlaen o dan arweinyddiaeth Elin Jones.

No comments:

Post a Comment